Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae cyfyngiadau cloi ychwanegol wedi'u rhoi ar waith mewn sawl ardal ledled De Cymru.  Ni fu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol erioed yn bwysicach a chyda hyn mewn golwg mae darparwyr hamdden wedi ymuno ledled Gwent er mwyn helpu i gadw cwsmeriaid yn actif.

Bydd cwsmeriaid sydd ag aelodaeth â darparwr hamdden mewn siroedd ledled Gwent, na fyddant yn gallu eu mynychu oherwydd cyfyngiadau cloi lleol, yn lle hynny yn gallu mynychu eu campfeydd neu ganolfan hamdden leol tra bo'r clo lleol yn parhau. 

Mae'r fenter newydd hon, o'r enw Gwent Actif, yn cynnwys Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Chwaraeon & Gwasanaethau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, MonLife (Sir Fynwy), Casnewydd Fyw ac Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

Mae hyn yn golygu y gall cwsmeriaid sy’n byw ym mlaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy neu Gasnewydd sydd ar hyn o bryd yn aelodau gyda darparwyr hamdden y tu allan i’w hardaloedd lleol nad allant eu defnyddio bellach, gael aelodaeth o Gwent Actif i fynychu gwasanaethau hamdden yn eu sir eu hunain fel rhan o'r bartneriaeth newydd hon. 

Bydd hyn ar gael tan 31 Hydref 2020 i ddechrau a’i adolygu wrth i ni ddilyn diweddariadau Llywodraeth Cymru. Mae cwsmeriaid yn parhau i dalu eu ffioedd aelodaeth presennol a byddant yn parhau i fod yn aelodau o'u darparwr hamdden arferol.  Pan fydd clo lleol yn cael ei godi, byddant yn gallu dychwelyd i'w cyfleusterau arferol. Bydd eu darparwr hamdden lleol yn cysylltu â’u haelodau sy'n gymwys i gael hyn gyda mwy o fanylion am sut i gael mynediad. 

Cyflwynwyd menter Gwent Actif er mwyn helpu i gefnogi cymunedau yng Ngwent i aros yn gorfforol actif tra bo'r cyfyngiadau'n parhau. Mae'r holl ddarparwyr hamdden sy'n cymryd rhan yn parhau'n ymrwymedig i ddiogelwch staff a chwsmeriaid gyda chanllawiau ychwanegol ar waith gan gynnwys gwell cyfundrefnau glanhau a chadw pellter cymdeithasol. 

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Rydym wrth ein bodd yn ymuno â sefydliadau hamdden eraill ledled Gwent i gryfhau partneriaeth Gwent Actif. Mae'n bwysig gallu helpu pobl i gadw'n actif a chefnogi eu hiechyd a'u llesiant, hyd yn oed yn fwy felly yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn. Mae'r fenter newydd hon yn golygu, er gwaethaf y cloi yn lleol, y bydd gan gwsmeriaid fynediad di-dor o hyd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau yn eu hardal leol."
Ychwanegodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin "Ein cenhadaeth yw gwella bywyd cymunedol.   Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Gwent Actif i roi cyfle i aelodau y tu allan i'r fwrdeistref barhau â'u gweithgarwch ffitrwydd tra bo'r cyfyngiadau lleol ar waith, drwy'r cytundeb cyfatebol hwn."

Dywedodd Angharad Collins, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen "Rydym wrth ein bodd ein bod, yn wyneb yr heriau yn ein sector, wedi gallu cydweithio â chydweithwyr eraill yng Ngwent ar gyfer y prosiect arloesol hwn.  Ein nod yn y pen draw yw sicrhau y gall dinasyddion Gwent barhau i fod yn gorfforol weithgar yn ein hamgylcheddau diogel rhag COVID.  Rwy'n eich annog yn gryf i gysylltu â'ch darparwr presennol i fanteisio ar y cyfle unigryw hwn." 
Dywedodd y Cynghorydd Richard John, yr Aelod Cabinet dros MonLife "Mae'r newyddion gwych hwn yn golygu y gall pobl barhau i gadw'n heini ac yn iach mewn canolfan hamdden leol wrth i'r gaeaf nesáu – waeth beth fo'u cyfeiriad cartref yng Ngwent.  Mae hon yn enghraifft wych o sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth ledled Gwent i gefnogi pobl – hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd." 

Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Ddysgu a Chyflawniad "Mae'r cydweithio rhwng ymddiriedolaethau hamdden a chynghorau o bob rhan o Went yn fenter wych a fydd yn caniatáu i drigolion Caerffili ac ardal ehangach Gwent barhau i fod yn actif mewn cyfnod pan fo angen gweithgarwch corfforol ar gwsmeriaid fwyaf.

"Rwy'n falch iawn bod darparwyr hamdden o bob rhan o Went wedi dod at ei gilydd i ddod o hyd i ateb sydd er lles gorau'r bobl sy'n bwysig - ein trigolion.  Diolch i'r holl swyddogion sydd wedi gwneud hyn yn bosibl ac i'n cwsmeriaid sydd wedi bod yn aros yn amyneddgar i ddychwelyd i'w hoff gyfleusterau unwaith eto." 
Ceir rhagor o fanylion am ddarparwyr hamdden sy'n cymryd rhan yn y gwefannau isod.  

Blaenau Gwent – Hamdden Aneurin aneurinleisure.org.uk
Caerffili – Gwasanaethau Hamdden a Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili https://www.caerphilly.gov.uk/Things-To-Do/Sports-and-Leisure/Leisure-centres?lang=cy-gb
Sir Fynwy – MonLife – www.monlife.co.uk 
Casnewydd – Casnewydd Fyw – www.newportlive.co.uk 
Torfaen – Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen - torfaenleisuretrust.co.uk 

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am gloi lleol gan Lywodraeth Cymru i'w gweld yma: https://gov.wales/local-lockdown 

Newport Live logo
Torfaen Leisure Trust logo
Monlife Logo
Caerphilly County Borough Council logo
Aneurin Leisure Logo