Bydd rhaglen feicio gynhwysol newydd yn cael ei lansio yng Nghasnewydd gan bartneriaid Casnewydd Fyw a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae'r rhaglen, Olwynion i Bawb, yn fenter a gydnabyddir yn genedlaethol gan elusen feicio genedlaethol y DU, Cycling Projects, sy'n cynnwys plant ac oedolion ag anableddau ac anghenion gwahanol i gymryd rhan mewn gweithgaredd beicio o safon.

Bydd Olwynion i Bawb Casnewydd yn digwydd ym Mharc Tredegar a bydd yn rhad ac am ddim i drigolion Casnewydd. 

Bydd y rhaglen yn elwa o fflyd fach o feiciau wedi'u haddasu ynghyd ag arweinwyr beicio hyfforddedig Olwynion i Bawb a fydd yn rhoi cyfle i ystod ehangach o bobl fwynhau manteision niferus beicio. 

Mae'r rhaglen yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd i'w lansio yn 2021 ar ôl treial a sesiynau fflach ragarweiniol. Bydd angen archebu beiciau ymlaen llaw drwy wefan neu ap Casnewydd Fyw ac yna gellir eu casglu a'u reidio ar hyd llwybr dynodedig ym Mharc Tredegar.

Mae Casnewydd Fyw eisoes yn darparu gweithgareddau a mentrau cynhwysol ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch corfforol a'r celfyddydau ledled dinas Casnewydd gan gynnwys iechyd a ffitrwydd, beicio, athletau, nofio a tenis. Meddai Steve Ward Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, "Mae darparu gweithgarwch corfforol a chyfleoedd diwylliannol i Gasnewydd yn ganolog i'r hyn a wnawn yng Nghasnewydd Fyw ac rydym yn parhau i ddatblygu cyfleoedd cynhwysol i bobl ag anableddau a'u teuluoedd. Mae'n wych bod yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Dinas Casnewydd i lansio'r rhaglen gyffrous hon, yn enwedig yn ystod yr amgylchiadau heriol a wynebwn gyda’r Coronafeirws. Bydd Olwynion i Bawb Casnewydd yn caniatáu i bobl gael hwyl a bod yn egnïol yn yr awyr agored ym Mharc hardd Tredegarac yn parhau â'n hymrwymiad i ysbrydoli cymunedau Casnewydd i fod yn hapusach ac yn iachach tra'n ehangu ein gwaith yn y categori teithio llesol gyda phrosiectau mwy cyffrous o'n blaenau."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Hamdden a Diwylliant: "Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â Chasnewydd Fyw ar y rhaglen Olwynion i Bawb . Rydym yn gweithio'n galed i gynyddu'r ddarpariaeth hamdden yn y ddinas, a gobeithiwn y bydd y rhaglen nid yn unig o fudd i iechyd corfforol a meddyliol ein trigolion, ond hefyd yn annog mwy o bobl i ddewis opsiynau teithio llesol wrth deithio o amgylch y ddinas."

Bydd y rhaglen yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf a chaiff mwy o fanylion eu rhannu ar wefan Casnewydd Fyw www.newportlive.co.uk a'r cyfryngau cymdeithasol.