Mae lleoliadau chwaraeon eiconig ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, heddiw yn newid eu henwau am ddiwrnod i anrhydeddu gweithwyr chwaraeon cymunedol a gwirfoddolwyr llawr gwlad sydd wedi mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau yn ystod y cyfnod cloi, gyda’r Loteri Genedlaethol.

Mae’r newid o ran enwau’r lleoliadau a’r ymroddiadau arbennig yn digwydd ar ôl canfyddiadau astudiaeth newydd ledled y DU a gomisiynwyd gan y Loteri Genedlaethol ac a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod dwy ran o dair o gefnogwyr chwaraeon yng Nghymru (63%) yn dweud bod y pandemig wedi cynyddu eu cariad at chwaraeon a’u gwerthfawrogiad o fod yn actif. Hefyd, mae dros draean (38%) yn credu mai 2020 ddylai fod y flwyddyn rydym yn dathlu pobl chwaraeon yn y gymuned yn yr un ffordd rydym yn dathlu gweithwyr proffesiynol ac mae nifer tebyg (30%) bod yr amgylchiadau heriol wedi peri iddynt werthfawrogi gwirfoddolwyr chwaraeon lleol hyd yn oed yn fwy nag o’r blaen.

Yng Nghymru, bydd Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, a enwir fel arfer ar ôl enillydd blaenorol y Tour De France, yn mynd yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Chris Davies am y diwrnod, ar ôl pencampwr rhedeg lleol. Chris yw Cadeirydd a Hyfforddwr Rhedwyr Llyswyry a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, sy’n chwarae rhan anferth yng nghymuned chwaraeon Casnewydd. Yn ystod y pandemig, bu’r clwb yn gweithio’n ddiflino i gadw aelodau’n actif a chynnig cymorth ac anogaeth i bobl o bob gallu. Gwnaethant greu digwyddiadau rhithwir a digwyddiadau capasiti llai a ddaeth â’r gymuned ynghyd mewn amgylchedd diogel, yn ystod anawsterau’r pandemig.

Caiff Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, ei hailenwi’n Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Ken Newing, i anrhydeddu gwirfoddolwr chwaraeon lleol, a drefnodd, er gwaethaf hunanwarchod, raglenni e-hwylo a dechreuodd sgyrsiau ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn annog aelodau’r clwb i rannu eu straeon am hwylio, gan ddod â’r gymuned ynghyd ar adeg pan fyddai llawer fel arall wedi bod ar eu pennau eu hunain.

Mae’r morwr a enillodd fedal aur Olympaidd ac a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd, sef Hannah Mills, wedi treulio llawer o’u hamser yn hyfforddi ac yn meistroli ei sgiliau hwylio ar y dŵr yn y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol. Gan longyfarch Ken Newing, dywedodd Hannah: “Mae’r Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy mywyd ac mae’n wych ei gweld yn cael ei hymroddi i Ken Newing fel hyn. Mae 2020 wedi cael effaith fawr ar bob camp ar lawr gwlad yn benodol, ac nid yw miloedd o bobl wedi llwyddo i gael y buddion i’r iechyd o fod allan ar y dŵr a bod yn actif fel y byddent fel arfer. Mae’r canfyddiadau o’r Loteri Genedlaethol yn dangos faint mae pobl wedi gweld eisiau ochr gorfforol a chymdeithasol bod yn rhan o’u clybiau lleol ac mae Ken wedi helpu i gadw gwên ar wynebau pobl a hybu morâl drwy ei waith. Ar ran y gymuned hwylio gyfan, rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaed gan wirfoddolwyr chwaraeon a draws y wlad eleni.”

Ar ran Rhedwyr Llyswyry, dywedodd Chris Davies, “Ni allem fod wedi helpu cymaint o bobl heb ymdrech wirfoddoli fawr, yn enwedig y tîm hyfforddi.  Yr un mor bwysig fu’r cyllid rydym yn ei gael gan y Loteri Genedlaethol rydym yn ei roi i mewn i gymhwyso hyfforddwyr newydd. Rydym yn credu ei fod yn bwysig buddsoddi mewn gweithgarwch ar lawr gwlad sydd o fudd corfforol a meddyliol i bobl eraill. Fyddai ddim modd i chi wneud hynny oni bai bod gennych bobl sy’n fodlon cael cymwysterau ac arwain. Diolch i’n holl hyfforddwyr a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gydnabod a chefnogi ein gwaith.”

Mae Geraint Thomas ymhlith yr athletwyr elît sydd wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol dros y blynyddoedd i’w helpu i hyfforddi a chystadlu mewn nifer o gemau Olympaidd a’r Gymanwlad. Gan longyfarch Chris, dywedodd: “Roedd yn anrhydedd anhygoel i gael y Felodrom wedi’i enwi ar fy ôl i, ond yr un yw’r anrhydedd i mi bod fy enw wedi’i amnewid gydag un Chris Davies am y diwrnod.  Mae’r gwaith mae Chris wedi’i wneud yn ardal Casnewydd i helpu i gadw pobl yn heini, yn actif, yn frwdfrydig ac yn cael hwyl yn ystod cyfnod mor anodd yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn eithriadol o bwysig, ac mae Chris yn cynrychioli’r llu o Gymry anhygoel a ddaeth at ei gilydd eleni, gan ddefnyddio pŵer chwaraeon i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi fy helpu’n aruthrol yn ystod fy ngyrfa ym myd chwaraeon ac mae gwaith Chris yn enghraifft o’r ochr arall i chwaraeon y mae’n ei hariannu sy’n cael effaith gadarn ar bobl mewn cymunedau lleol ledled y wlad.”

Ar ran Clwb Hwylio Y Felinheli, dywedodd Ken Newing, “Dw i heb ddod drosto yn iawn o hyd! Ces i ysgytwad pan ges i wybod, do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Mae’r clwb hwn yn ymdrechu fel grŵp, mae llawer o bobl yn cymryd rhan a diolch i arian y Loteri Genedlaethol gallant barhau i wneud felly. Mae ein comodoriaid yn gwneud gwaith gwych ac ni fyddai hynny’n bosibl hebddyn nhw. Ni yw calon y gymuned ac mae’r gymuned yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn. ‘Dyn ni’n bobl arferol - dim mwy.”

Mae Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru yn dweud, “Gyda chymorth chwaraeon Y Loteri Genedlaethol, mae gweithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr o glybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi llwyddo i barhau i helpu pobl a chymunedau i barhau’n actif, wedi’u cysylltu ac yn frwdfrydig yn ystod pandemig COVID-19. Mae Chris Davies a Ken Newing yn enghreifftiau anhygoel o’r ffordd y mae pobl ar draws chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu lles corfforol a meddyliol y mae mawr ei angen yn y cyfnod anodd hwn.”

I gael gwybod mwy am sut mae’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r gwaith a wneir gan bobl sydd heb eu canmol ledled y DU, ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk