Mae Casnewydd Fyw wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae wedi cael cyllid gwerth £126,770 i helpu i ddiogelu dyfodol y theatr ac i gadw swyddi. 

Bydd yr arian hwn, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2021, yn cael ei ddefnyddio i hwyluso'r gwaith o ddarparu gweithgarwch artistig i bobl yng Nghasnewydd, gan weithio gyda, a chefnogi artistiaid a gweithwyr creadigol annibynnol eraill yn Ne Cymru. Bydd Glan yr Afon yn gweithio gyda'r sector addysg hefyd i gyflwyno rhaglen greadigol sy'n ymgysylltu â phlant a dysgwyr sy'n oedolion ledled y ddinas. Mae'r ganolfan theatr a chelfyddydau hefyd yn awyddus i ddatblygu gwaith newydd ym meysydd y celfyddydau mewn perthynas ag iechyd a phresgripsiynu cymdeithasol i gefnogi lles pobl. 

Dyfarnwyd £50,000 o gyllid cyfalaf ychwanegol hefyd i alluogi'r theatr i ddatblygu'r cyntedd yn lle perfformio diogel gyda chynnig arlwyo wedi'i ddiweddaru. Er bod perfformiadau ym mhrif awditoriwm y theatr bellach wedi'u canslo hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, y gobaith yw y bydd Glan yr Afon yn gallu ailagor yn fuan ar gyfer dosbarthiadau, gweithdai, cynyrchiadau digidol ac fel lle croesawgar i gwrdd a mwynhau coffi, cyn gallu dod â sioeau a pherfformiadau yn ôl i'r lleoliad.

Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw sy'n gyfrifol am gynnal Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a dywedodd "Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am yr arian hwn sydd wedi ein helpu i sicrhau dyfodol Glan yr Afon a swyddi i rai o'n tîm. Rydym yn aros i Lywodraeth Cymru gadarnhau pryd y gellir ailagor y theatr i'r cyhoedd ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid ar ffyrdd amgen y gall Casnewydd Fyw a sefydliadau eraill ddefnyddio'r adeilad. Yn y cyfamser, rydym yn ceisio cyflwyno ffyrdd creadigol a digidol eraill o gefnogi cwsmeriaid ac artistiaid lleol, i ddarparu gweithgarwch artistig ac i gefnogi lles nes y bydd modd i ni groesawu pobl i'r adeilad eto."

Mae grant Cyngor y Celfyddydau yn rhan o Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru i gefnogi sector y celfyddydau sy'n wynebu anawsterau ariannol brys.

Daw'r cyllid yn dilyn cais llwyddiannus blaenorol gan Casnewydd Fyw i gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Sefydliadau yn gynharach eleni. Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, bydd y grant hwn yn cael ei ddefnyddio i alluogi Glan yr Afon i lansio rhaglen o ddosbarthiadau, gweithdai a deunyddiau addysgol gan ddatblygu rhaglen gyfredol y theatr sy’n cynnwys dawns, cerdd, drama a dosbarthiadau ffitrwydd sy’n seiliedig ar gelf. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn ogystal â chomisiynu artistiaid lleol a gaiff eu cefnogi gyda’r cyfle i fanteisio ar gyfleusterau Glan yr Afon i helpu i gynnig eu rhaglen gyfredol ar-lein ac i ddatblygu gwaith newydd.

 

I gael gwybod mwy am Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ewch i https://www.newportlive.co.uk/cy/lleoliadau/Canolfan-Theatr-a-Chelfyddydau-Glan-yr-Afon/  neu dilynwch Glan yr Afon ar gyfryngau cymdeithasol yn @TheRiverfront ar Facebook neu @RiverfrontArts ar Twitter ac Instagram.

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nad yw’n dosbarthu elw sy’n cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled y ddinas. Gallwch gael gwybod mwy am sut i gefnogi Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw yma: https://www.newportlive.co.uk/cy/Amdanom-ni/Cefnogwch-ni/