Nid Dim Ond TheatrNid Dim Ond Aelodaeth

CEFNOGWCH NI

Mae Casnewydd Fyw yn cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled y ddinas.

Rydym yn deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, cadw'n heini a chymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgarwch creadigol arall a bod y rhain yn hanfodol i les corfforol a meddyliol ein cwsmeriaid. 

Rydym yn sefydliad elusennol nad yw’n dosbarthu elw, sy'n golygu bod ein holl incwm sy’n weddill yn cael ei ail-fuddsoddi yn y sefydliad i wella ein rhaglenni, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac i gefnogi hyfforddiant a datblygiad staff. Fyddai hyn ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi.

Fel aelod neu gwsmer Casnewydd Fyw rydych yn helpu i gefnogi ein gwaith cymunedol hanfodol ac rydym yn hynod ddiolchgar. 

 

Cefnogwch ein Rhaglenni a'n Prosiectau

Os hoffech ein cefnogi, gallwch wneud hynny yn un o'r ffyrdd canlynol:

Group of children playing dodgeball

Gwnewch Rodd

Gallwch roi unrhyw swm i gefnogi ein prosiectau a'n gweithgareddau yn y dyfodol ar dudalen Go Fund Me Casnewydd Fyw.

Cyfrannwch nawr
adults and children performing on a stage in cinderella panto

Prynwch Daleb Rhodd

Prynwch daleb rhodd ar gyfer gweithgaredd ffitrwydd neu gelfyddydol yn y dyfodol.  P'un a ydych yn prynu un i chi'ch hun neu fel rhodd, gallwch fwynhau eich hun wrth ein cefnogi ar yr un pryd.

Siopa nawr
Amazon smile logo.jpg

Cyfrannwch drwy Amazon

Cefnogwch ein prosiectau pan fyddwch yn siopa drwy Amazon.  Mae Amazon Smile am ddim i chi gofrestru a phob tro y byddwch yn siopa byddwn yn derbyn rhodd heb unrhyw gost i chi.

Siopa nawr
Easy fundraising logo

Cyfrannwch wrth i chi Siopa

Ymunwch ag Easy Fundraising heddiw a helpwch i'n cefnogi pan fyddwch yn siopa ar-lein.  Drwy gofrestru byddwn yn derbyn rhodd wrth i chi siopa, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

Darllen rhagor
Portrait of a man with a colourful background with the wording May Love Be What You Remember Most installed on the side of a building.JPG

Prynwch Brint

Mae'r artist lleol CONSUMERSMITH yn garedig iawn wedi rhoi caniatâd i Lan yr Afon werthu printiau o'i gelf stryd a ysbrydolwyd gan y cyfnod clo May Love Be What We Remember Most’.

Bydd yr arian a godir o werthu'r printiau hyn yn mynd yn ôl i ariannu prosiectau y bydd Glan yr Afon yn gweithio arnynt yn y dyfodol gydag artistiaid a'r gymuned i ddod â phobl yn ôl at ei gilydd i fwynhau'r celfyddydau a bod yn greadigol yn bersonol unwaith eto.

Dysgwch Mwy
blue lit stage with prince charming and cinderella in panto performance

Cyfrannwch wrth i chi archebu tocynnau

Bob tro y byddwch yn archebu tocynnau i sioe, digwyddiad neu ffilm yng Nglan yr Afon cewch gyfle i dalu at y bunt agosaf a rhoi rhodd i'n cefnogi.

Archebwch Tocyn

Ein Cefnogaeth Gymunedol

Rhannu’r Cariad

Yn ystod cyfnod heriol y cyfnod clo yn gynnar yn 2021, rhannodd ein Datblygiad Celfyddydau Cymunedol gariad a charedigrwydd ledled Casnewydd drwy anfon pecynnau lles i gefnogi pobl a oedd yn ynysu i'w helpu i fod yn greadigol ac aros yn actif.

Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl diolch i'r rhoddion caredig a gafwyd gan aelodau, cwsmeriaid a chynulleidfaoedd Casnewydd Fyw yn ogystal â chyllid gan Chwaraeon Cymru.

Darllen rhagor

Chwaraeon a Lles

Mae’r Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol yn cynnig ac yn hwyluso cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau a grwpiau lleol ledled Casnewydd. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni cynhwysiant cymdeithasol sy'n seiliedig ar chwaraeon, cymorth ar gyfer iechyd a lles teuluoedd, rhaglenni chwaraeon ysgol, llythrennedd corfforol a mwy. Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i barhau i gyflawni'r prosiectau a'r gweithgareddau sy'n golygu cymaint i'n cymuned.

Darllen rhagor

Datblygu’r Celfyddydau

Mae tîm Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon yn cynnig nifer o wahanol brosiectau, rhaglenni a mentrau sydd oll wedi'u llunio i gael cynifer o bobl â phosibl o bob oedran i ymwneud â'r celfyddydau a chreadigrwydd. Nod Glan yr Afon yw chwalu'r rhwystrau a allai fod yn atal aelodau o'r gymuned rhag cymryd rhan a dod i'r theatr yn ogystal â chefnogi artistiaid. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai'r tîm yn gallu cynnal rhai o'r gweithgareddau gwych hyn.

Darllen rhagor

Diolch

Diolch i'n holl gwsmeriaid ac aelodau anhygoel sydd wedi ein cefnogi.  Ni allem wneud ein gwaith hanfodol i gefnogi lles y gymuned hebddoch chi. 

cefnogaeth gorfforaethol

Os ydych yn fusnes neu'n sefydliad ac am ein cefnogi gallwch noddi prosiect, hysbysebu neu logi ein cyfleusterau.

Mwy o wybodaeth