Ynglŷn â’r lleoliad hwn
Mae’r Ganolfan Gysylltu yn gartref i Dîm Datblygu Chwaraeon arobryn Newport Live sy’n hwyluso cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd.
Cysylltu â Ni
Yr hyn a gynigiwn

Dosbarthiadau Ymarfer Corff
Edrychwch ar ein hamrywiaeth o ddosbarthiadau ymarfer grŵp, o Zumba i Pilates, mae gennym dosbarth perffaith i'ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd.

Datblygu Celfyddydau Cymunedol
Mae ein Tîm Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol wedi'u lleoli yng Nghanolfan Gysylltu ac yn creu ac yn hwyluso cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd. Mae'r tîm yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ac annog mwy o bobl i wirioni ar chwaraeon am oes.

Llogi Corfforaethol a Chyfleoedd
Mae gan y Ganolfan Gyslltu amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau chwaraeon i’w llogi ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau preifat. Gallwn ddarparu ar gyfer cyfarfodydd yn null ystafell fwrdd, cabare neu theatr, gan ddibynnu ar eich gofynion.

Llogi Cyrtiau
Mae gan Ganolfan Cysylltu neuadd chwaraeon dan do ac ardal gemau amlddefnydd sydd ar gael i'w llogi.
Beth sydd ymlaen
Os oes gennych gyfrif ar-lein Casnewydd Fyw, archebwch sesiynau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Neu gallwch ein ffonio ar 01633 656757 neu anfon e-bost atom yn enquiries@newportlive.co.uk.
Eisiau dod yn aelod?
Beth bynnag eich oedran, eich rhyw, eich nodau neu’ch gallu, mae Casnewydd Fyw am i chi fod yn hapusach ac yn iachach. Rydym ni yma i'ch cefnogi a'ch ysgogi. Gwell gennych weithio ar eich pen eich hun? Mae hynny’n iawn hefyd.
Aelodaeth