Mae Prawf Iechyd yn ffordd wych o osod man cychwyn ac i chi gadw golwg ar eich cynnydd trwy gydol eich taith ffitrwydd. 

Mae Casnewydd Fyw yn cynnig Prawf Iechyd AM DDIM a gynhelir gan ein timau ffitrwydd cwbl gymwys gan ddefnyddio peiriannau InBody a Tanita o'r radd flaenaf sy'n mesur:

·       Pwysau

·       BMI (Mynegai Màs y Corff)

·       Braster y Corff 

·       Braster Perfeddol (Braster Peryglus o Amgylch yr Organau Mewnol) 

·       Màs y Cyhyrau

·       Lefelau Hydradu

·       Dwysedd yr Esgyrn

Mae mesuriadau'r corff a gofnodir yn cael eu lanlwytho'n awtomatig i app Iach ac Actif Casnewydd Fyw, gan eich galluogi i gadw golwg ar eich statws iechyd, rheoli eich rhaglen hyfforddi a rhannu eich data symud â'r tîm ffitrwydd i dderbyn cymorth hyfforddiant personol. 

Cynhelir archwiliadau iechyd yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio RanbartholFelodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd

 

Cyfle  i Ennill!

Archebwch Brawf Iechyd AM DDIM yn ystod mis Rhagfyr i gael cyfle i ennill Huawei Band 4.*

Mae'r traciwr gweithgareddau yn cyfrif eich camau, curiad y galon, calorïau wedi'u llosgi, a'r pellter a deithiwyd, fel y gallwch gael syniad clir o'ch iechyd a'ch ffitrwydd i greu trefn hyfforddi fwy effeithiol.

Gellir archebu profion iechyd ar-lein, trwy app Casnewydd Fyw (gyda chymorth staff y gampfa) neu drwy ffonio 01633 656 757.

 

*Mae telerau ac amodau’n berthnasol. Dim ond i Aelodau Casnewydd Fyw sydd ag aelodaeth ddilys ac sy'n archebu lle yn ogystal â chwblhau prawf iechyd rhwng 1af a 31 Rhagfyr 2020 y mae raffl Her Iechyd Mis Rhagfyr ar agor. Dim ond un cais fesul aelod; ni chaniateir ceisiadau lluosog. Nid oes modd trosglwyddo na chyfnewid gwobrau ac nid yw’r gwobrau’n cynnwys costau teithio. Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o blith yr holl ymgeiswyr cymwys gan Casnewydd Fyw a chysylltir â nhw dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 72 awr i gynnal y raffl gyda manylion ar sut i hawlio’r wobr.  Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl y dyddiad a’r amser cau. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd o fewn 7 diwrnod, mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i ddewis enillydd arall ar hap o blith yr holl gystadleuwyr cymwys eraill. Nid yw’r raffl yn agored i aelodau staff, gwirfoddolwyr na Chyfarwyddwyr Casnewydd Fyw, nac aelodau agos o’u teuluoedd, asiantaethau neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth neu’r raffl. Mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw gystadlaethau neu rafflau yn ôl neu eu diwygio ar unrhyw adeg heb rybudd.