Wrth i’r cyfnod atal ddod i ben, bydd ein gwasanaethau a’n cyfleusterau yn barod i’ch croesawu chi yn ôl ddydd Llun 9 Tachwedd. Gallwch weld amseroedd agor ein canolfannau yma.

Rydym yn dilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru ac UK Active ar draws ein gwasanaethau a’n cyfleusterau i helpu i’ch cadw chi a’n cwsmeriaid eraill, ein staff a’n gwirfoddolwyr yn ddiogel. Gallwch weld y mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith ynghyd â’r canllawiau y bydd angen i chi eu dilyn yma.

Mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni ac rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein cyfleusterau’n cynnig amgylchedd diogel. Os ydych yn poeni am ddychwelyd, cysylltwch â ni. Gallwn naill ai siarad â chi am y mesurau diogelwch sydd ar waith neu gallwn drefnu sesiwn groesawu aelod i chi gyfarfod â’n tîm ac edrych o gwmpas. 

Pan fyddwn yn ailagor, byddwch yn sylwi ar un prif newid i’n gwasanaethau sef dim ond 15 person 11+ oed a ganiateir i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp dan do a drefnir. Bydd hyn yn effeithio ar ein dosbarthiadau ymarferion grŵp a rhai o’n gweithgareddau dan do eraill.  

Cewch ddiweddariad ar ein gwasanaethau isod ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi yn ôl.

Trefnwch sesiynau ar-lein neu drwy lawrlwytho’r app Trefnu Sesiynau Casnewydd Fyw pinc. 

Aelodaethau a Debydau Uniongyrchol

Os oedd eich aelodaeth neu’ch Debyd Uniongyrchol yn fyw ar adeg cau ein canolfannau, bydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i gasglu ar 1 Tachwedd 2020 am bris is (nid ydym wedi codi tâl arnoch am fis Hydref ac am y sesiynau cyfyngedig fydd ar gael ym mis Tachwedd) a chaiff eich aelodaeth ei hailactifadu o ddydd Llun 9 Tachwedd. 

Os cafodd eich aelodaeth ei rhewi ar adeg gorfod cau ein canolfannau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno. Os ydych yn barod i ddychwelyd, mae croeso i chi gysylltu â ni a bydd ein tîm yn fwy na hapus i ddad-rewi eich aelodaeth yn gynnar. 

Mae aelodaeth Gwent Actif wedi’i ymestyn hyd at fis Rhagfyr 2020, os ydych yn manteisio ar hon ar hyn o bryd. Yn unol â chyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae cyfyngiadau’r cyfnod cloi wedi’u codi erbyn hyn sy’n golygu y gallwch ddychwelyd i Casnewydd Fyw os ydych am wneud felly.   Neu, gallwch barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau yn eich ardal leol os byddai’n well gennych.

Dosbarthiadau ymarferion grŵp

Bydd dosbarthiadau ymarferion grŵp ar gael yn y Ganolfan Byw’n Actif, Felodrom Cenedlaethol Cymru, Geraint Thomas, Canolfan Casnewydd a'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. 

Oherwydd newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru, dim ond 15 person ar y mwyaf a all gymryd rhan yn y dosbarthiadau hyn.  Fodd bynnag, rydym yn cynnal dosbarthiadau ychwanegol lle y gallwn er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi eich iechyd, eich lles a’ch cadw’n actif yn eich hoff sesiwn. 

Gall Aelodau gadw lle mewn dosbarthiadau 8 diwrnod ymlaen llaw a defnyddwyr Thalu a Chwarae 4 diwrnod ymlaen llaw.

Mwy o fanylion yma

Cadw Lle Nawr

 

Rhestrau Aros

Rydym bellach wedi cyflwyno rhestrau aros ar gyfer ein dosbarthiadau.  Os yw’r dosbarth rydych am gymryd rhan ynddo’n llawn, rhowch eich enw ar y rhestr aros a chewch wybod os daw lle ar gael.
Os ydych i fod i gymryd rhan mewn dosbarth na allwch fynd iddo fwyach, sicrhewch eich bod yn canslo eich lle fel y gall cwsmer arall ei gael.

Book Now

Campfeydd

Mae’r campfeydd yn ailagor yn y Ganolfan Byw’n Actif, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, Canolfan Casnewydd a'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.  Mae sesiynau yn y gampfa ar gael trwy gydol y dydd ac mae dal angen i chi eu trefnu ymlaen llaw. Gall Aelodau drefnu sesiwn yn y gampfa 8 diwrnod ymlaen llaw a defnyddwyr Thalu a Chwarae 4 diwrnod ymlaen llaw.

Mwy o fanylion yma

 

Trefnu Sesiwn Nawr

Beicio

Beicio Trac

Bydd Beicio Trac yn dychwelyd o ddydd Iau 12 Tachwedd. Mae ein sesiwn Dychwelyd i’r Trac ar gael i feicwyr Cam 3 ac uwch.

Mwy o fanylion yma

 

Beicio i Blant

Bydd Beicio i Blant yn dychwelyd ddydd Sul 15 Tachwedd ac ar y dyddiau Sul ar ôl hynny gyda’r un sesiwn a gynhaliwyd cyn y cyfnod atal. 

Mwy o fanylion yma

Trefnu Sesiwn Nawr

Nofio

Nofio Lôn

Bydd nofio lôn ar gael yng Nghanolfan Casnewydd a’r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.

Bydd angen i chi drefnu sesiwn ar gyfer y lôn sy'n berthnasol i'ch cyflymder nofio. Bydd y sesiynau yn y pwll yn para am 60 munud ar y fwyaf i alluogi ein staff i lanhau.

Bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri na chiwbiclau newid ar gael o hyd. Caiff cwsmeriaid ardal 2 fetr wrth ochr y pwll i ddadwisgo a storio offer.

Gall Aelodau drefnu sesiynau nofio 8 diwrnod ymlaen llaw a defnyddwyr Thalu a Chwarae 4 diwrnod ymlaen llaw.

Mwy o fanylion yma

 

Nofio i’r Teulu

Bydd sesiynau Nofio i’r Teulu ar gael yn y Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Mae ein sesiynau nofio hwyliog i'r teulu yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant dan 8 oed sy'n awyddus i fwynhau'r pwll, ymarfer nofio a chael hwyl mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Mae ein sesiynau yn ystod yr wythnos yn berffaith i blant cyn oed ysgol!

Mwy o fanylion yma

 

Trefnu Sesiwn Nawr

Gwersi Nofio

Bydd gwersi nofio’n dychwelyd i’r arfer o ddydd Llun 9 Tachwedd.  Byddwn yn dilyn canllawiau Nofio Cymru ac ni effeithir ar wersi nofio i blant dan 11 oed gan y canllawiau newydd sy’n caniatáu i ddim ond 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp dan do.

 Os oedd eich aelodaeth neu’ch Debyd Uniongyrchol yn fyw ar adeg cau ein canolfannau, bydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i gasglu ar 1 Tachwedd 2020 am bris is (nid ydym wedi codi tâl arnoch am fis Hydref ac am y sesiynau cyfyngedig fydd ar gael ym mis Tachwedd) a chaiff eich aelodaeth ei hailactifadu o ddydd Llun 9 Tachwedd. 

Os cafodd eich aelodaeth ei rhewi ar adeg gorfod cau ein canolfannau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.  Os ydych yn barod i ddychwelyd, mae croeso i chi gysylltu â ni a bydd ein tîm yn fwy na hapus i ddad-rewi eich aelodaeth yn gynnar.

 

Clwb Nofio Dinas Casnewydd a Rhaglen Nofio Integredig Casnewydd Fyw

Bydd Clwb Nofio Dinas Casnewydd yn dychwelyd o ddydd Llun 9 Tachwedd.  Bydd eich hyfforddwyr yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i gadarnhau unrhyw newidiadau i’ch sesiynau.

Os oedd eich aelodaeth neu’ch Debyd Uniongyrchol yn fyw ar adeg cau ein canolfannau, bydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i gasglu ar 1 Tachwedd 2020 am bris is (nid ydym wedi codi tâl arnoch am fis Hydref ac am y sesiynau cyfyngedig fydd ar gael ym mis Tachwedd) a chaiff eich aelodaeth ei hailactifadu o ddydd Llun 9 Tachwedd. 

Os cafodd eich aelodaeth ei rhewi ar adeg gorfod cau ein canolfannau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.  Os ydych yn barod i ddychwelyd, mae croeso i chi gysylltu â ni a bydd ein tîm yn fwy na hapus i ddad-rewi eich aelodaeth yn gynnar.

Tennis

Cyrtiau

Dim ond ar gyfer uchafswm o 4 o bobl am 50 munud y gallwch drefnu sesiynau ar y cyrtiau tennis.

Gall Aelodau gadw cyrtiau 8 diwrnod ymlaen llaw a defnyddwyr Thalu a Chwarae 4 diwrnod ymlaen llaw.

Mwy o fanylion yma

Cadw Cwrt Nawr

 

Gwersi Tennis a Digwyddiadau Tennis Cymdeithasol

Bydd y rhaglen gwersi tennis a digwyddiadau tennis cymdeithasol yn dychwelyd o ddydd Llun 9 Tachwedd. 

 Os oedd eich aelodaeth neu’ch Debyd Uniongyrchol yn fyw ar adeg cau ein canolfannau, bydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i gasglu ar 1 Tachwedd 2020 am bris is (nid ydym wedi codi tâl arnoch am fis Hydref ac am y sesiynau cyfyngedig fydd ar gael ym mis Tachwedd) a chaiff eich aelodaeth ei hailactifadu o ddydd Llun 9 Tachwedd. 

Os cafodd eich aelodaeth ei rhewi ar adeg gorfod cau ein canolfannau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.  Os ydych yn barod i ddychwelyd, mae croeso i chi gysylltu â ni a bydd ein tîm yn fwy na hapus i ddad-rewi eich aelodaeth yn gynnar.

Mwy o fanylion yma

Gwasanaethau Eraill

Plant bach

Disgwylir i weithgareddau plant bach ddychwelyd yn ddiweddarach a bydd y manylion yn cael eu cadarnhau cyn gynted â phosibl. 

 

Llogi Cyrtiau

Gellir llogi cyrtiau ar gyfer badminton, tennis bwrdd, tennis a phêl picl; ni allwn logi racedi nac offer ar gyfer llogi cwrt felly cofiwch ddod â'ch rhai eich hun. Gall cwsmeriaid brynu offer wrth ein Derbynfeydd gan gynnwys peli a racedi. Gellir cadw ardal ‘cwrt badminton’ ar gyfer pêl picl, bwrdd tennis a badminton ar gyfer gemau rhwng dau unigolyn yn unig. 

 

Clybiau, Grwpiau, Trefnu Sesiynau a Llogi Ystafelloedd

Bydd modd trefnu sesiynau yn yr awyr agored yn yr un modd â chyn y cyfnod atal o 9 Tachwedd 2020.  Bydd y tîm trefnu sesiynau’n cysylltu â’r holl gwsmeriaid sydd â sesiynau dan do wedi’u trefnu er mwyn egluro’r cyfyngiad 15 o bobl (11+ oed) a sut y gallai hynny effeithio ar eu sesiynau.  Fodd bynnag dylai pob clwb ofyn i’w gorff llywodraethu am arweiniad llawn ar sut y mae’r cyfyngiadau’n effeithio ar ei gamp neu ei weithgaredd.

 I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â bookings@newportlive.co.uk

 

Caffi

Mae'r caffi yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol bellach ar agor gyda seddau cyfyngedig ar gael. Ni ddylai’r grŵp gynnwys mwy na 4 unigolyn os nad ydych chi i gyd yn byw gyda’ch gilydd. 

Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

Er na fydd ein prif raglen theatr yn mynd rhagddi, rydym yn gobeithio y bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn ailagor eleni wrth i ni geisio cyflwyno ffyrdd amgen o ddifyrru pobl, gan gynnwys yn ystod cyfnod y Nadolig, yn ogystal â'u helpu i fod yn greadigol a chefnogi eu lles corfforol a meddyliol.

Yn y cyfamser, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn rhannu perfformiadau a gweithgareddau creadigol eraill gan sefydliadau gwych eraill er mwyn i chi roi cynnig arnyn nhw.

www.facebook.com/theriverfront 

www.twitter.com/riverfrontarts 

www.instagram.com/riverfrontarts

 

Mwy o wybodaeth

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar ein cwestiynau cyffredin cyn i chi gysylltu â ni.

Gweld Cwestiynau Cyffredin

Os bydd angen i chi gysylltu â’r tîm, anfonwch e-bost i enquiries@newportlive.co.uk neu ffoniwch 01633 656757.

 

 Diolch

Hoffem ddiolch i'n holl gwsmeriaid am eu hadborth cadarnhaol a’u cefnogaeth.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nad yw’n dosbarthu elw, rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus. Dysgwch sut gallwch chi ein cefnogi yn Cefnogwch Ni.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld yn fuan iawn!