Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn o ansicrwydd i fyd nofio cystadleuol yn sgil Covid-19 a'r cyfyngiadau dilynol a osodwyd ar fywyd bob dydd, yn enwedig ar y byd chwaraeon. 

Cyn hyn, roedd Clwb Nofio Dinas Casnewydd yn hyfforddi dros 20 awr yr wythnos ac yn cystadlu ar draws y wlad. Roedd hyn wedi cynnwys taith i Ganolfan Campau Dŵr Llundain ar gyfer y Treialon Olympaidd ym mis Ebrill 2021. Yn ddigon tebyg i weddill y DU, canfu nofwyr eu hunain yn gyfyngedig i'w cartrefi yn ystod y cyfnod clo cyntaf a phan godwyd y cyfyngiadau roedd eu dychweliad i'r dŵr yn dipyn gwahanol i’r hyn oedd e.  Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, roedd nofwyr yn cadw’n ffit drwy wneud hyd at 6 sesiwn yr wythnos o waith ffitrwydd cyffredinol gartref tra bod y bartneriaeth a sefydlwyd rhwng Dolffiniaid Torfaen a'r Clwb yn sicrhau y byddai nofwyr yn gallu cael mynediad i gyfleusterau nofio pan oedd cyfnod clo  lleol mewn grym yng Nghasnewydd, i'w helpu i gynnal eu lefelau perfformiad.

Felly, mae'n wych gweld cynifer o nofwyr y Clwb, er gwaethaf cyfnod mor ansicr, yn cael cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau rhagorol a'u lefel perfformiad drwy gael eu dewis ar y Llwybr  Sgwad Cenedlaethol:

·       Megan Allison - Datblygiad Elitaidd Cenedlaethol (Cymru)

·       Scarlet Major - Datblygiad Elitaidd Cenedlaethol (Cymru) 

·       Ben Fox Wiltshire - Datblygiad Ieuenctid Cenedlaethol (Cymru) 

·       Isobel Stevens - Datblygiad Ieuenctid Cenedlaethol (Cymru) 

·       Jack Knight - Datblygiad Ieuenctid Cenedlaethol  (Cymru) 

·       Alex Griffiths - Datblygiad Ieuenctid Cenedlaethol (Cymru)

·       Sebastian Major - Academi Sgiliau Genedlaethol (Cymru) 

·       Lucy Jones - Academi Sgiliau Genedlaethol (Cymru) 

·       Bea Jones - Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol (Lloegr - cymhwysodd Bea ar gyfer y Llwybr Sgwad Cenedlaethol tra yng Nghlwb Nofio Dinas Henffordd cyn symud i Glwb Nofio Dinas Casnewydd.)

Ar nodyn cystadleuol, er nad yw'n bosibl i Glwb Nofio Dinas Casnewydd  gymryd rhan mewn cystadlaethau oherwydd cyfyngiadau Covid-19, maent wedi cystadlu mewn cyfres o gystadlaethau rhithwir, Cyfres Uwch Nofio Cymru. Dywedodd Prif Hyfforddwr  Clwb Nofio Dinas Casnewydd, James Goodwin: "Ar hyn o bryd rydym wedi cwblhau'r 2 rownd gyntaf a byddwn yn cwblhau'r drydedd rownd ychydig cyn y Nadolig. Mae'n anhygoel gweld yr holl nofwyr yn rasio ac yn dychwelyd i wneud yr hyn y maen nhw’n ei garu.  Mae wedi bod yn wych gweld sut maen nhw wedi symud ymlaen o rownd 1 i rownd 2 yn barod".  Mae'r Gyfres yn rhoi cyfle i nofwyr nodi meysydd o'u techneg neu berfformiad y mae angen eu gwella cyn Pencampwriaethau Nofio Prydain a fydd hefyd yn dyblu fel Treialon Olympaidd yng Nghanolfan Campau Dŵr Llundain ym mis Ebrill 2021.

Mae problemau parhaus o hyd ym myd nofio cystadleuol gan fod yn rhaid i lawer o nofwyr hunanynysu oherwydd profion cadarnhaol mewn ysgolion, serch hynny, bydd Clwb Nofio Dinas Casnewydd yn dychwelyd yn 2021 gyda nofio'n gryfach nag erioed.