Annwyl Gwsmer Gwerthfawr,

Yn dilyn y datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae'n flin gennym eich hysbysu y bydd lleoliadau Casnewydd Fyw ar gau o Ddydd Sul 20 Rhagfyr ac ni fyddant ar agor i'r cyhoedd hyd nes y clywir yn wahanol. Gellir dod o hyd i ganllaw syml i'ch helpu i lywio'r cyfnod hwn, gan ddangos pa wasanaethau a busnesau fydd ar agor ac yn hygyrch ar wahanol haenau gan ddefnyddio'r ddolen hon Llywodraeth Cymru Datgloi ein cymdeithas a'n heconomi

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cyfyngiadau clo bob 3 wythnos felly rydym yn rhagweld y byddwn ar gau tan o leiaf Ddydd Gwener 15 Ionawr. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid allweddol eraill i roi mwy o fanylion i gwsmeriaid cyn gynted ag y gallwn. 

Bydd hyn yn effeithio ar y cyfleusterau canlynol; 

Canolfan Casnewydd
Pwll Rhanbarthol a Chanolfan Tenis
Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas 
Canolfan Byw'n Actif
Stadiwm Casnewydd
Canolfan Cysylltu
 

Bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon nad yw wedi gallu agor ers mis Mawrth hefyd yn parhau ar gau. 

Yn ystod y cyfnod hwn bydd Casnewydd Fyw yn ceisio gweithio gyda'n partneriaid lle mae eithriadau'n caniatáu i wasanaethau ddigwydd yn ein lleoliadau er budd trigolion Casnewydd a'r ddinas.  Byddwn yn gallu cefnogi chwaraeon proffesiynol ac elît, darpariaeth addysgol ac unrhyw raglenni clinigol yn ystod y cyfnod clo.

Os oes gennych aelodaeth, neu’n mynd i wersi nofio neu tenis gyda ni, neu os oes gennych ddebyd uniongyrchol, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Bydd hyn yn cael ei rewi nes i ni ailagor ac ni fydd taliad yn cael ei gymryd tra byddwn wedi cau. Mae manylion llawn isod.

 

Aelodaethau

Os ydych chi’n aelod o Gasnewydd Fyw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, caiff eich aelodaeth ei rhewi'n awtomatig o'r diwrnod y byddwn yn cau, mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol. O ganlyniad, ni fyddwn yn ceisio casglu unrhyw daliadau debyd uniongyrchol o'ch cyfrif banc yn ystod ein cau.  Byddwn yn credydu unrhyw falans o'ch aelodaeth i chi oherwydd y cau (e.e. diwrnodau yn ystod mis Rhagfyr) ar ôl ailagor ein cyfleusterau a'n rhaglenni.  Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd y cyfle i ailagor ac ailgychwyn ar gael i chi. 

Os caiff eich aelodaeth ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau wedi ei rewi tan y dyddiad y cytunwyd arno.

Aelodau Debyd Uniongyrchol

I'r aelodau hynny y mae eu Debydau Uniongyrchol yn fyw ar hyn o bryd, oherwydd cyfathrebiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru a'r ansicrwydd ynghylch pryd y cawn ailagor ein cyfleusterau, rydym wedi penderfynu peidio â chasglu eich taliad Debyd Uniongyrchol a fydd yn ddyledus Ddydd Llun 4 Ionawr 2021. Rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu ailagor yn gynnar yn 2021 a byddwn yn cysylltu â chi unwaith y bydd gennym ddyddiad ailagor wedi'i gadarnhau yn rhoi gwybod am ddyddiadau a symiau casglu yn y dyfodol. 

Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau o ran eich Debyd Uniongyrchol. Os hoffech rewi eich Debyd Uniongyrchol i atal taliadau rhag cael eu casglu yn y dyfodol, cysylltwch â'n tîm ar enquiries@newportlive.co.uk.  Rydym yn deall nawr yn fwy nag erioed y pwysau ariannol y gallech fod yn eu hwynebu a hoffem atgoffa ein cwsmeriaid y byddwn yn fwy na pharod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn, siaradwch â'n tîm ar 01633 656757 nawr neu pan fyddwch ein hangen yn y dyfodol. 

I'r aelodau hynny y mae eu haelodaeth Debyd Uniongyrchol wedi'u rhewi ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus rydym wedi penderfynu rhewi eich aelodaeth Debyd Uniongyrchol am gyfnod amhenodol sy'n golygu na fyddwn yn casglu unrhyw daliadau Debyd Uniongyrchol yn y dyfodol nes i chi roi gwybod i ni am eich dymuniad i wneud hynny pan fyddwch yn barod i ddychwelyd ac rydym yn cael ailagor.

Aelodau Cyfnod Penodol – 1 Mis, 3 Mis a Blynyddol

I'r aelodau hynny y mae eu haelodaeth Cyfnod Penodol yn fyw ar hyn o bryd, oherwydd cyfathrebiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru a'r ansicrwydd ynghylch pryd y cawn ailagor ein cyfleusterau, rydym wedi penderfynu rhewi eich aelodaeth cyfnod penodol. Pan fyddwn yn cael ailagor byddwn yn ymestyn dyddiad gorffen eich aelodaeth i gwmpasu cyfnod ein cau gorfodol.

I'r aelodau hynny y mae eu haelodaeth Cyfnod Penodol wedi'u rhewi ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus rydym wedi penderfynu rhewi eich aelodaeth cyfnod penodol am gyfnod amhenodol.  Pan fyddwch yn barod i ddychwelyd a'n bod yn cael ailagor byddwn yn fwy na pharod i ddadrewi eich aelodaeth gan ymestyn dyddiad gorffen eich aelodaeth i gwmpasu’r cyfnod rhewi.

 

 

Aelodaeth o'r Rhaglen Nofio a Thenis Integredig​​​​​​​

Os oes aelodaeth gennych chi o’r Rhaglen Nofio neu Denis Integredig gyda Casnewydd Fyw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, bydd eich aelodaeth yn cael ei rewi yn awtomatig o'r diwrnod yr ydym yn cau. Mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol.

Ni fyddwn yn casglu unrhyw daliad debyd uniongyrchol yn ystod y cyfnod y byddwn ar gau.  

Os yw eich aelodaeth wedi ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.

 

 

Gwersi Nofio ​​​​​​​

Bydd yr holl wersi nofio yn dilyn ein cau ni yn cael eu rhewi ar unwaith a bydd y credydau presennol yn parhau mewn grym nes ein bod yn gallu ailafael yn y gwersi.  Os oes Ddebyd Uniongyrchol gennych ar gyfer gwersi nofio, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Ni fyddwn yn casglu unrhyw daliad debyd uniongyrchol yn ystod y cyfnod y byddwn ar gau.  

Os caiff eich aelodaeth ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau wedi ei rewi tan y dyddiad y cytunwyd arno.

 

Archebion a Digwyddiadau a Archebwyd Ymlaen Llaw

Bydd yr holl archebion yn cael eu canslo o ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020 hyd at ddydd Gwener 15 Ionawr 2021. Os oedd eich gweithgaredd yn weithgaredd â thâl, byddwn yn trosglwyddo eich archeb i ddyddiad ac amser cyfleus a bydd un o'n tîm yn cysylltu i drafod eich opsiynau. Os yw eich archeb yn rhan o 'archebiad bloc' neu 'ddigwyddiad', unwaith eto bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i drafod hyn gyda chi.

Gofynnwn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar gyda ni a byddwn mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl, byddwn yn dechrau cyfathrebu â chwsmeriaid y disgwylid eu harchebion, yn ôl trefn dyddiad, o ddechrau’r cyfnod cau.

 

Cadw yn Actif a Chreadigol​​​​​​​

Rydym yn deall pwysigrwydd llesiant, cymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, a chymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgarwch creadigol arall a'i fod yn hanfodol i lesiant ein cwsmeriaid, yn enwedig ar yr adeg hon.

Cadwch yn ddiogel a chofiwch aros yn actif a bod yn greadigol tra byddwch gartref.  Byddwn yn rhannu cymaint ag y gallwn yn ddigidol i'ch cefnogi chi gyda hyn, gan gynnwys fideos gan rai o'ch hoff hyfforddwyr.

 

Diolch

Diolch yn fawr i'n holl gwsmeriaid.  Rydym wedi ymrwymo i gadw cwsmeriaid a gweithwyr yn ddiogel ac rydym wedi cyflwyno ein Hymrwymiad Covid-19 i roi tawelwch meddwl i chi wrth ymuno â Chasnewydd Fyw neu ddefnyddio ein gwasanaethau neu gyfleusterau.  Gallwch weld mwy o fanylion yma.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nid er elw, rydym yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich cefnogaeth barhaus. Dysgwch sut gallwch chi ein cefnogi yn http://www.casnewyddfyw.co.uk/cy/Amdanom-ni/Cefnogwch-ni/

Parhewch i ddilyn y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael yn https://llyw.cymru/coronafeirws

Am y newyddion diweddaraf, cadwch lygad ar ein gwefan a @NewportLiveUK ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os oes angen i chi gysylltu â ni pan fyddwn ar gau, anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk, defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio ar ein gwefan neu ffoniwch 01633 656757.

 

Yn olaf, dymunwn Nadolig a Blwyddyn Newydd hapus ac iach i chi!  Edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl i Casnewydd Fyw yn 2021 ac unwaith eto eich ysbrydoli i fod yn actif ac yn greadigol gyda'n gilydd.