*************19 Hydref 2020****************

Yn dilyn y diweddariad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, bydd canolfannau a gwasanaethau Casnewydd Fyw ar gau i'r cyhoedd o 5.30pm ddydd Gwener 23 Hydref. Rydym wrthi'n cwblhau'r manylion a byddwn yn rhannu'r rhain cyn gynted ag y gallwn.


*****************************************

 

Yn dilyn cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o’r coronafeirws (Covid-19) yng Nghasnewydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfyngiadau newydd.

Daw'r cyfyngiadau i rym am 6pm ddydd Mawrth 22 Medi 2020. Nod y cyfyngiadau ychwanegol yw lleihau lledaeniad y feirws a diogelu iechyd y cyhoedd i bobl sy'n byw yn ein hardal.

Y prif gyfyngiadau yw:

•    ni chaniateir i bobl ddod i mewn i Gasnewydd na gadael heb esgus rhesymol
•    ni fydd pobl yn cael ffurfio, na bod mewn, cartref estynedig (a elwir weithiau'n "swigen") mwyach 
•    mae hyn yn golygu na chaniateir cyfarfod dan do gydag unrhyw un nad yw'n rhan o'ch aelwyd (pobl rydych chi'n byw gyda nhw), oni bai fod gennych reswm da, megis darparu gofal i berson sy'n agored i niwed
•    bydd yn rhaid i bob safle trwyddedig gau am 11pm
•    rhaid i bobl weithio gartref pan fo hynny’n bosibl 

Maent yn berthnasol i bawb sy'n byw neu'n gweithio yng Nghasnewydd ac ni chaniateir i bobl ddod i mewn i Gasnewydd na gadael heb esgus rhesymol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleolhttps://gov.wales/local-lockdown 

Bydd y cyfyngiadau hyn ar waith nes bod y risg o ledaenu’r coronafeirws wedi lleihau, a bryd hynny gellir eu llacio. Mae ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cyfyngiadau hyn ar ôl pythefnos a phob wythnos ar ôl hynny os yw’r cyfyngiadau'n parhau'n hwy na hynny. 

 

Beth mae hyn yn ei olygu i gwsmeriaid Casnewydd Fyw sy'n byw yng Nghasnewydd?

 

A fydd cyfleusterau hamdden Casnewydd Fyw yn aros ar agor?
Byddan.  Bydd ein cyfleusterau ar agor i bobl sy'n byw yng Nghasnewydd. Byddwn yn parhau i weithredu mesurau i gynnal ymbellhau cymdeithasol a chadw pawb yn ddiogel.
Mae ein canllawiau llawn i'w gweld yma.

Ni ddylech deithio i ardaloedd y tu allan i Gasnewydd i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff.

Gyda phwy galla i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff?

Dim ond gyda phobl eraill o Gasnewydd y cewch gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff ac ar yr amod eich bod yn  cynnal pellter cymdeithasol. Ni ddylech fynd i’n canolfannau na chyfarfod yno ag unrhyw un nad yw'n aelod o'ch aelwyd heb reswm da – mae’r trefniadau aelwydydd estynedig yn cael eu hatal dros dro ar gyfer y rhai sy'n byw yn yr ardal.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn a gwirio a ydych yn un o drigolion Casnewydd yma: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol
 

Beth mae hyn yn ei olygu i gwsmeriaid Casnewydd Fyw nad ydyn nhw’n byw yng Nghasnewydd?

Os nad ydych yn byw yng Nghasnewydd, ni chaniateir ichi fynd i gyfleusterau Casnewydd Fyw hyd nes y rhoddir rhybudd pellach. Mae eithriadau ar gyfer athletwyr elît neu bobl sydd â phroblemau iechyd neu symudedd penodol. Mae'r manylion llawn i'w gweld yma: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol 

Os ydych chi’n aelod neu'n mynychu gwersi ar hyn o bryd, ceir manylion isod am yr hyn a fydd yn digwydd i'ch aelodaeth a'ch taliadau. 

Aelodau
I'r cwsmeriaid sy'n talu Debyd Uniongyrchol misol neu aelodaeth flynyddol rydym wedi rhewi eich aelodaeth o 22 Medi 2020 a bydd yn aros felly nes y cawn arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. 

Aelodau Clwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd
I'r cwsmeriaid sy'n talu Debyd Uniongyrchol misol neu aelodaeth flynyddol rydym wedi rhewi eich aelodaeth o 22 Medi 2020 a bydd yn aros felly nes y cawn arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. 

Gwersi Nofio 
I'r cwsmeriaid sy'n talu am wersi nofio eu plant drwy Ddebyd Uniongyrchol misol rydym wedi rhewi eich aelodaeth o 22 Medi 2020 a bydd yn aros felly nes y cawn arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. I'r cwsmeriaid sy'n talu am wersi nofio eu plentyn drwy gredydau byddwn yn ychwanegu credydau at gyfrif eich plentyn ac yn adolygu hyn yn barhaus wrth i ni gael canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru. Yn y ddau achos byddwn yn sicrhau lle eich plentyn yn ei ddosbarth presennol. 

Gwersi Tennis  
I'r cwsmeriaid sy'n talu am eu gwersi tennis eu hunain neu rai eu plant drwy Ddebyd Uniongyrchol misol rydym wedi rhewi eich aelodaeth o 22 Medi 2020 a bydd yn aros felly nes y cawn arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn sicrhau lle eich plentyn yn ei ddosbarth presennol. 

Cwsmeriaid talu a chwarae gan gynnwys y rhai sy'n mynychu dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, archebion gweithgareddau a nofio am ddim 
Os ydych wedi archebu sesiynau ar ddyddiadau yn y dyfodol, byddwn mewn cysylltiad yn ystod y dyddiau nesaf i drafod unrhyw daliadau rydych wedi'u gwneud a sut y gallwn gario'r rhain ymlaen at dyddiadau yn y dyfodol unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi’u lleddfu. 

 

Mae'r canllawiau hyn wedi'u rhoi ar waith yn dilyn cyhoeddi'r cyfyngiadau newydd gan Lywodraeth Cymru a chânt eu hadolygu'n barhaus. Os oes gennych gwestiynau pellach, cysylltwch ag enquiries@newportlive.co.uk ond cofiwch ein bod yn derbyn nifer fawr o alwadau ac e-byst ar hyn o bryd. 

Diolch am eich cefnogaeth a’ch amynedd yn ystod y cyfnod heriol hwn.