Yr wythnos hon mae Casnewydd Fyw yn lansio rhaglen newydd o weithgarwch i gefnogi preswylwyr i gadw'n actif yn gorfforol yn ystod y pandemig hwn. Mae hyn yn cynnwys amserlen o Hyfforddiant Dwysedd Isel a fydd yn cael ei rhannu ar-lein yn wythnosol yn ogystal â chyflwyno boreau coffi rhithwir a gweithgarwch arall i helpu i gadw cwsmeriaid yn egnïol a chysylltiedig. Mae’r sesiynau newydd wedi’u teilwra yn benodol ar gyfer pobl 60 oed a hŷn, er eu bod hefyd yn addas i bobl eraill sy’n wynebu rhwystrau rhag gwneud eu hymarfer corff oherwydd y canllawiau cenedlaethol a’r cyfnod cloi. Caiff sesiwn bellach ei chyflwyno gan gynnwys awgrymiadau iechyd a maeth, gwneud ymarfer corff yn bosibl, mesur cynnydd corfforol a seicolegol a sesiynau 1 i 1 digidol.

Cyflwynwyd y gweithgaredd hwn i gefnogi pobl 60 oed a hŷn gartref tra nad oes modd i Gasnewydd Fyw groesawu cwsmeriaid i'w gyfleusterau hamdden yn ystod y cyfnod cloi. Fodd bynnag, mae'r sefydliad yn bwriadu cyflwyno rhagor o raglenni a sesiynau wyneb yn wyneb a fydd yn cael eu rhannu pan gaiff y canolfannau groesawu eu cwsmeriaid yn ôl. Mae'r gweithgareddau hyn yn gwella'r rhaglen Pobl Dros 60 oed sydd eisoes ar gael gan Gasnewydd Fyw gan gynnwys nofio am ddim ac aelodaeth Actif 60 ac Aqua 60.  

Mae Casnewydd Fyw yn ymuno â darparwyr hamdden eraill ledled Cymru i gefnogi ffyrdd iach o fyw a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i bobl dros 60 oed. Mae'r rhaglen weithgareddau wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Rydym yn ddiolchgar iawn i Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru am y cyllid hwn a fydd yn ein helpu i gefnogi pobl dros 60 oed, yn ogystal â'r gymuned ehangach i gadw'n heini yn ystod y cyfnod heriol hwn. Rydym yn gwybod bod cadw'n heini yn dod â manteision anhygoel i'ch iechyd meddwl a chorfforol ac rydym yn parhau i gefnogi ac annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan mewn ymarfer corff. Mae'r sesiynau ar-lein hyn yn ategu ein gweithgarwch digidol arall i helpu pobl i aros yn Hapus ac Iach gartref a darparu cyfleoedd i wneud ymarfer corff mewn ffordd ddiogel a chyfrifol nes ein bod yn gallu croesawu pobl yn ôl i'n cyfleusterau."

Ariennir y rhaglen gan Chwaraeon Cymru y dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Sarah Powell "Rydym am i bobl yng Nghymru gael mwynhau chwaraeon trwy eu hoes a thrwy weithio gyda phartneriaid i helpu i ddarparu cynigion ychwanegol neu wedi'u hategu sy'n anelu at ddiwallu anghenion pobl dros 60 oed yn lleol yn benodol rydym yn gobeithio y gwelwn hyd yn oed mwy o unigolion o'r ddemograffig hon yn cadw’n actif neu’n dod yn actif.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym i gyd wedi gorfod meddwl hyd yn oed yn fwy am sut rydym yn cadw ein hunain yn iach, mewn ffyrdd gwahanol i sut byddem yn gwneud hynny cyn y coronafeirws.  Gwyddom fod cadw’n gorfforol actif yn un ffordd a all helpu i'n cadw'n feddyliol ac yn gorfforol dda, ac mae’n cynnig ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ag eraill.  Felly rwy'n annog pobl i gael golwg drwy eu hawdurdod lleol ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael i'w helpu i wneud hyn."

I gael rhagor o fanylion am y gweithgaredd sy'n cael ei ddarparu gan Gasnewydd Fyw, ewch i'w sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ewch i Newport Live ar YouTube.