Yng Nghymru mae'r cwricwlwm chwarae yn golygu bod plant yn cael llawer o gyfleoedd i symud yn eu dysgu.  Fodd bynnag, nid yw plant yn dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arnynt drwy chwarae yn unig. Mae ‘na rai sgiliau sydd angen eu dysgu, ac mae angen y sgiliau hyn hefyd i chwarae llawer o'r gemau a'r chwaraeon sy'n cefnogi ffordd iach ac egnïol o fyw.

Rydyn ni'n gwybod o flynyddoedd lawer o ymchwil, os bydd plant ifanc iawn yn symud llawer, y byddan nhw'n symud yn well. Ond wrth iddynt fynd ychydig yn hŷn, dechrau datblygu cydbwysedd a symud yn annibynnol, mae angen eu dysgu sut i symud yn dda. Drwy ddysgu plant i symud yn dda, maent yn datblygu'r hyder a'r cymhelliant i osod y sylfeini ar gyfer bywyd o weithgarwch corfforol ac iechyd corfforol a meddyliol gwell.

Mae ein holl raglenni, ar draws lleoliadau blynyddoedd cynnar, lleoliadau nas cynhelir, y gymuned a'r cyfnod sylfaen mewn ysgolion cynradd yn dilyn fframwaith a rhaglen SKIP Cymru (Hyfforddiant Cinesthetig llwyddiannus i Blant Cyn Ysgol (SKIP-Cymru©)).  Mae’r tîm Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol i gyd yn gymwys mewn SKIP ar naill ai Lefel 3 neu Lefel 4. Mae rhaglen datblygu proffesiynol SKIP Cymru wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol yn adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ar Weithgarwch Corfforol Plant a Phobl Ifanc. Mae gwaith SKIP Cymru hefyd wedi'i amlygu fel astudiaeth achos ar gyfer y deunyddiau cymorth  Taith at Gymru Iachach ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Am fwy o wybodaeth am unrhyw rai o’n rhaglenni blynyddoedd cynnar a llythrennedd corfforol, cysylltwch â'r Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol, Chloe Powton, chloe.powton@newportlive.co.uk / Sportsdevelopment@newportlive.co.uk

Plantos Prysur ar gyfer Meithrinfeydd

Mae’r tîm Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol yn Casnewydd Fyw yn cynnig rhaglen Plantos Prysur arloesol sy’n cyflwyno sesiynau o safon i blant a staff mewn lleoliadau meithrin er mwyn iddynt ddysgu am bwysigrwydd a manteision gweithgarwch corfforol.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ymgysylltu a thywys plant ifanc i gymryd eu camau cyntaf ar yr ysgol llythrennedd corfforol dros gyfnod o saith wythnos, wrth addysgu a rhoi'r adnoddau i staff barhau i hyrwyddo pwysigrwydd y rôl y gall gweithgarwch corfforol a lles ei chwarae drwy gydol datblygiad plant.

Nod ein rhaglen Plantos Prysur yw gwella lles corfforol a meddyliol plant drwy eu cyflwyno a'u tywys drwy flynyddoedd cynnar y broses llythrennedd corfforol. Gallwn helpu lleoliadau i:

  • Uwchsgilio eu gweithlu

  • Cysylltu â'r gymuned

  • Cyflawni achrediad Cyn-Ysgol Iach

  •  Cael gafael ar offer newydd

  • Sefydlu sesiynau ymgysylltu â rhieni

Rhieni, neiniau a theidiau, teulu a gwarcheidwaid

Gall pob un ohonoch fod â rôl bwysig yn cefnogi datblygiad corfforol plant.

Wyddech chi?

Mae symudiad a chwarae yn y blynyddoedd cynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad yr ymennydd.

Pan fyddwch chi'n gweld eich babi bach yn ceisio symud ac estyn am bethau o'i gwmpas, mae'n gwneud cysylltiadau yn ei ymennydd.  Os gwnewch chi'n siŵr fod eich babi’n cael digon o gyfle i chwarae a symud pan fydd yn ifanc iawn, bydd hyn yn ei helpu wedyn i ddysgu darllen ac ysgrifennu a gwneud mathemateg wrth fynd yn hŷn.

Mae symudiad a chwarae yn y blynyddoedd cynnar yn bwysig ar gyfer datblygu cydbwysedd.

O’r foment y caiff ei eni, mae babi'n dechrau dysgu i gydbwyso. Mae angen i ni roi amser bola i fabanod am gyfnodau byr drwy gydol y dydd fel eu bod yn dysgu i godi a rheoli eu pen a dechrau cysylltu eu system gydbwysedd â'u hymennydd. Wrth i blant fynd yn hŷn, maen nhw'n hoffi hongian, dringo, swingio a rhedeg o gwmpas. Mae hyn yn eu helpu i weithio allan sut maen nhw'n rheoli eu corff mewn perthynas â disgyrchiant. Mae angen cydbwysedd da arnom i allu sefyll, cerdded, rhedeg, a hyd yn oed eistedd yn llonydd.

Mae symudiad a chwarae yn y blynyddoedd cynnar yn bwysig ar gyfer datblygu cryfder.

Mae babanod yn dechrau datblygu gwddf a chefn cryfach yn ystod amser bola, maen nhw'n datblygu cyhyrau craidd cryfach pan maen nhw'n dysgu i eistedd i fyny a chropian, a phan maen nhw’n gallu defnyddio’u cydbwysedd, cryfder craidd a chryfder y coesau gyda'i gilydd, maen nhw'n dysgu i sefyll a cherdded.

Mae symudiad a chwarae yn y blynyddoedd cynnar yn bwysig ar gyfer datblygu cydlyniad.

Pan fydd eich babi'n dechrau eistedd i fyny a chropian, mae'n dysgu i ddefnyddio gwahanol rannau o'i gorff gyda'i gilydd. Wrth iddyn nhw ddysgu i gydlynu eu cyrff drwy symud a chwarae, gallant ddysgu i gerdded a rhedeg, codi gwrthrychau fel peli a batiau, a chwarae gemau.

Pan fydd plant yn treulio llawer o amser mewn seddi ceir, cadeiriau bownsio, a chadeiriau gwthio, dydyn nhw ddim yn cael digon o gyfle i symud a chwarae. Pan fyddwn ni'n gadael iddyn nhw dreulio llawer o amser ar sgriniau, rydyn ni'n atal eu datblygiad.

Mae ymchwil yn dangos i ni fod gan y rhan fwyaf o blant ifanc oedi yn eu datblygiad corfforol erbyn hyn - gall hyn effeithio ar ddatblygiad iaith, hyder a'u perfformiad academaidd. Gwybodaeth i Rieni | YDDS

Adnoddau

Citbag

Mae Citbag yn hyb a grëwyd gan Chwaraeon Cymru i helpu i roi sgiliau, hyder, a phrofiadau chwaraeon i bobl ifanc i’w helpu i fwynhau chwaraeon am oes. Datblygwyd cannoedd o adnoddau gan arbenigwyr addysg a chwaraeon, a rhoddwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae mynediad i’r adnoddau AM DDIM, ond bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf

Golwg Citbag

Hyb Cymunedol Casnewydd

Mae Hyb Cymunedol Casnewydd yn gartref i amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaid lleol sy'n rhan o Hyb y Celfyddydau a’r Hyb Chwaraeon a Lles. 

Bydd y categorïau isod yn eich helpu i ddarganfod amrywiaeth o adnoddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol a fydd yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, ac amrywiaeth o adnoddau chwaraeon a lles i helpu i ysbrydoli ffordd hapusach ac iachach o fyw.

Gweld y Hyb

Mini Movers:

Gweithgareddau syml, hwyl i rieni eu chwarae gyda'u plant yn unrhyw le, gyda chyfarpar sylfaenol. Cliciwch yma i gofrestru.

Ymuno