Rhaglen Chwaraeon Ysgol

Nod y tîm Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol yw sicrhau cyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Cyflawnir hyn trwy greu a hyrwyddo cyfleoedd i blant gael mynediad at gyfleoedd chwaraeon a chorfforol rheolaidd a hygyrch. Gweithio'n agos ag ysgolion, athrawon a phartneriaid i wreiddio rhaglenni pwrpasol mewn ysgolion i ysbrydoli pob plentyn i fod yn actif drwy chwaraeon a symud. Hyrwyddo gweledigaeth ein prif gyllidwyr, Chwaraeon Cymru, y gall pawb gael mwynhad am oes drwy Chwaraeon.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw rai o'r rhaglenni isod cysylltwch â'r Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol, Chloe Powton, chloe.powton@newportlive.co.uk / Sportsdevelopment@newportlive.co.uk

Ysgol Gynradd:

Mae'r tîm yn rhoi cefnogaeth bwrpasol i ysgolion sy'n ceisio cynnig ffyrdd arloesol o wella'r MDaPh Iechyd a Lles o fewn y Cwricwlwm HWB newydd. Trwy gefnogaeth rhwydwaith o staff, rydym yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i athrawon ddatblygu neu wella eu gwybodaeth a'u hyder wrth ddarparu gweithgarwch corfforol a chwaraeon.  Mae'r rhaglenni’n cynyddu gallu'r ysgol i roi mynediad rheolaidd at ddarpariaeth sy'n anelu at gefnogi anghenion lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol y boblogaeth fyfyrwyr ehangach. Ein huchelgais yw sicrhau bod pob disgybl yn gorfforol-lythrennog ac yn symudwyr medrus erbyn iddyn nhw fod yn 7 oed. I roi cychwyn gwych i bawb, mae ein rhaglenni'n sicrhau bod gan bob person ifanc y sgiliau, yr hyder, a'r cymhelliant i'w galluogi i fwynhau a symud yn eu blaen drwy chwaraeon; gan roi’r sylfeini iddyn nhw fyw bywyd gweithgar, iach a chyfoethog.

CHWARAEON CYMUNEDOL A DATBLYGU GWEITHGARWCH CORFFOROL - YSGOLION CYNRADD

Ysgolion Uwchradd:

Mae’r tîm Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol yn cefnogi ysgolion drwy gynnal amrywiaeth o raglenni sy'n defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel ffordd o greu amgylchedd hwyl a rhyngweithiol. Rydym yn defnyddio llais y disgybl i greu rhaglen bwrpasol sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu, datblygu perthnasoedd a mynd i'r afael ag anghenion lles disgyblion.  Mae'r gwaith yn rhoi cymorth ar draws nifer fawr o lefelau sy'n helpu i gefnogi disgyblion yn uniongyrchol.

Mae’r tîm wedi cyflawni rôl hanfodol o fewn ysgolion i ddatblygu ymyriadau sy'n ceisio mynd i'r afael ag amrywiaeth o anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion, gan gynnwys ymddygiad segur a’r berthynas emosiynol â gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Mae’r dull gweithredu hwn yn rhoi'r disgybl wrth wraidd y rhaglenni, yn gweithio gyda nhw fel unigolion i ddatblygu adnodd personol y gallant ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd personol a chymdeithasol. Cyflawnir hyn drwy amrywiaeth o weithdai, sesiynau holi ac ateb, a chymorth grŵp.

TÎM CHWARAEON CYMUNEDOL A DATBLYGU GWEITHGARWCH CORFFOROL- YSGOLION UWCHRADD

Arolwg Chwaraeon Ysgol:

Ar ôl cael ei ohirio oherwydd y pandemig Covid-19, mae’r arolwg chwaraeon ysgol yn ôl!  Eleni gwnaeth 7,801 o ddisgyblion yng Nghasnewydd ddweud wrthym am eu profiad o chwaraeon yn ystod y flwyddyn.  Rhoddodd yr arolwg ddata craff i ni ar chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac addysg gorfforol yn ystod amser y cwricwlwm, ac yn allgyrsiol.  Gweler y Prif Ddata ar gyfer Casnewydd isod:

 

Adnoddau

Citbag

Mae Citbag yn hyb a grëwyd gan Chwaraeon Cymru i helpu i roi sgiliau, hyder, a phrofiadau chwaraeon i bobl ifanc i’w helpu i fwynhau chwaraeon am oes. Datblygwyd cannoedd o adnoddau gan arbenigwyr addysg a chwaraeon, a rhoddwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae mynediad i’r adnoddau AM DDIM, ond bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf

Golwg Citbag

Hyb Cymunedol Casnewydd

Mae Hyb Cymunedol Casnewydd yn gartref i amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaid lleol sy'n rhan o Hyb y Celfyddydau a’r Hyb Chwaraeon a Lles. 

Bydd y categorïau isod yn eich helpu i ddarganfod amrywiaeth o adnoddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol a fydd yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, ac amrywiaeth o adnoddau chwaraeon a lles i helpu i ysbrydoli ffordd hapusach ac iachach o fyw.

Gweld y Hyb