Mae gan y Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol yn Casnewydd Fyw barch mawr yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ymhlith partneriaid fel Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Gemau Stryd, a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent; ar ôl ennill gwobrau a chael eu cydnabod am ei dyfeisgarwch a'i harfer da. 

Mae’r tîm yn cynnig ac yn hwyluso cyfleodd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd ac ysgolion, cymunedau, clybiau a grwpiau lleol ledled Casnewydd. 

Ni fyddai ein prosiectau'n bosibl heb y partneriaid a'r arianwyr yr ydym yn gweithio gyda hwy, sydd, drwy eu cymorth, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yng Nghasnewydd. Mae ein rhaglenni a'n mentrau nid yn unig o fudd i'r cyfranogwyr, ond i'r gymuned gyfan, gan eu bod yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau iechyd drwy wella lles pobl. 

Rydym yn cyflawni prosiectau mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys:

Dyfodol Cadarnhaol
Chwaraeon ac ymgysylltu â phobl ifanc gweithgareddau dargyfeiriol i bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddwyn yn wrthgymdeithasol, cefnogi cydlyniad cymunedol a chynhwysiant cymdeithasol drwy chwaraeon.

Addysg Amgen
Yn rhoi cymorth cymdeithasol ac emosiynol, arweiniad a gofal bugeiliol i'r bobl ifanc hynny sydd wedi ymddieithrio o leoliadau addysgol traddodiadol, gan ddefnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel y bachyn i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc.

Iechyd a Lles
Rhoi cymorth ymgysylltu i deuluoedd sydd wedi'u hatgyfeirio, eu cysylltu â chymunedau cymdeithasol, a rhoi arweiniad a mentora mewn cyfarfodydd un i un a thrwy weithgarwch ac ymyriadau sy'n cefnogi gwelliannau mewn anweithgarwch corfforol, lles emosiynol, iechyd meddwl, gordewdra a rheoli pwysau, rhoi'r gorau i ysmygu, cyffuriau ac alcohol, a lles rhianta.

Gwirfoddoli Chwaraeon
Rhoi hyfforddiant, cymwysterau a chefnogaeth i bobl ifanc i ddod yn arweinwyr, gwirfoddolwyr neu weithwyr cyflogedig yn y dyfodol yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Y Rhaglen Blynyddoedd Cynnar, Llythrennedd Corfforol a Chwaraeon Ysgol
Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sy'n byw bywydau anweithgar neu sy'n segur, neu sydd ag anghenion lles emosiynol; yn ogystal â chefnogi'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n weithgar, yn heini ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol llwybrau pellach a chyfleoedd i wneud cynnydd a mwynhau cyfranogiad gydol oes mewn gweithgareddau.

Cydraddoldeb mewn Chwaraeon
Ymgysylltu â phlant, pobl ifanc, oedolion, gofalwyr, rhieni, a theuluoedd mewn gweithgareddau yn ein hysgolion, cymunedau, clybiau a chyfleusterau hamdden; sicrhau bod pawb yn gallu bod yn actif, cael mwynhad a chael budd o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Dysgwch fwy am ein rhaglenni 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut y gallwch ein cefnogi ni a'n gwaith neu e-bostiwch sportsdevelopment@newportlive.co.uk neu karl.reed@newportlive.co.uk 
Diolch i'n partneriaid a'n harianwyr cyfredol;