A yw eich plentyn erioed wedi codi raced? A ydyw’n 4-8 mlwydd oed? Os felly, rhaglen LTA Dechrau Ieuenctid ​​​​​ yw'r ffordd berffaith o'u cyflwyno i'r 'gêm hardd'.

Bydd tenis yn helpu eich plentyn i wella ei gydbwysedd, ei gyflymder a hyd yn oed ei allu i ganolbwyntio. Bydd eich plentyn hefyd yn dysgu am barch, gwaith tîm a chwarae teg wrth iddo ddatblygu ei sgiliau tennis.

Mae LTA Dechrau Ieuenctid yn gwrs i blant sy'n cynnwys 6 sesiwn o safon uchel am £29.99 y pen yn unig (yn ogystal â £5.00 am gostau postio).

Pan fyddwch yn cadw lle ar y cwrs, bydd bwndel pecyn Dechrau Ieuenctid (a anfonir gan yr LTA), sy'n cynnwys raced, set o beli, a chrys-t wedi'i frandio yn cael ei anfon at eich drws.

 

Dyddiadau ac amserau sesiynau

 

Sad, 24 Gorff 2021

12:00 - 13:00

Canolfan Tenis Casnewydd

Sad, 31 Gorff 2021

12:00 - 13:00

Canolfan Tenis Casnewydd

Sad, 07 Awst 2021

12:00 - 13:00

Canolfan Tenis Casnewydd

Sad, 14 Awst 2021

12:00 - 13:00

Canolfan Tenis Casnewydd

Sad, 21 Awst 2021

12:00 - 13:00​​​​​​​

Canolfan Tenis Casnewydd

Sad, 28 Awst 2021

12:00 - 13:00

Canolfan Tenis Casnewydd


 

Archebwch nawr

Ymholi Nawr

 

 

Mwy o wybodaeth
 

Cynhelir sesiynau Dechrau Ieuenctid dan do yng Nghanolfan Tenis Casnewydd. Bydd yr hyfforddwr yn cwrdd â chi yn y Man Cwrdd ar gyfer Gwersi Tenis ger y Mannau Parcio i'r Anabl ar ddechrau pob gwers. Mae'r sesiynau’n para 50 munud er mwyn sicrhau bod digon amser ar gael i drosglwyddo a glanhau cyfarpar oherwydd yr amgylchiadau presennol.

Mae sesiynau Dechrau Ieuenctid yn cydymffurfio â chanllawiau COVID-19 ar gyfer chwarae tenis. Rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â'n canllawiau llawn cyn ymweld â Chanolfan Tenis Casnewydd.

gweld y canllawiau llawn

gweld datganiad ymrwymiad iechyd