Mae Canolfan Tenis Casnewydd wedi ymrwymo i roi blaenoriaeth i les plant ac oedolion a all fod, neu sydd, mewn perygl, drwy hyrwyddo mesurau diogelu yn ein clwb [canolfan] ac fel rhan o’n rhaglenni tennis ac wrth gynnal neu gyflwyno digwyddiadau. 

Caiff yr holl weithgareddau, digwyddiadau a theithiau a drefnir gan y clwb [Canolfan Tenis Casnewydd) eu cynnal yn unol â Chanllawiau Diogelu mewn Digwyddiadau a Chystadlaethau y Gymdeithas Tenis Lawnt a Pholisïau Diogelu Casnewydd Fyw.

Drwy’r polisïau a’r canllawiau hyn, nod y clwb yw lleihau risg, sicrhau y cynigir profiadau cadarnhaol i bawb sy’n chwarae tenis a sicrhau bod Canolfan Tenis Casnewydd yn ymateb yn briodol i’r holl bryderon/datgeliadau sy’n ymwneud â diogelu. 

 

Pan fo pryderon/datgeliadau o ran diogelu:

  • Mae’r unigolyn y dywedir wrtho, sy’n clywed, neu sy’n dod i wybod am y pryderon/datgeliadau o ran diogelwch plentyn neu oedolyn yn gyfrifol am ddilyn y Weithdrefn Adrodd am Bryderon Diogelu.  Oni bai bod plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol, dylent hysbysu aelod o staff ar y safle. Gellir cysylltu â thîm Cyfleusterau Casnewydd Byw ar: 01633 656757.

  • Gall yr unigolyn hefyd roi gwybod i Dîm Diogelu’r Gymdeithas Tenis Lawnt, neu'r Arweinydd Diogelu Cenedlaethol.

  • Mae Swyddog Lles y Clwb a’r Arweinwyr Diogelu yn gyfrifol am roi gwybod am bryderon yn ymwneud â diogelu i Dîm Diogelu y Gymdeithas Tenis Lawnt.

  • Mae Tîm Diogelu’r Gymdeithas yn gyfrifol am asesu’r holl bryderon/datgeliadau a gyflwynir a chydweithio gyda Swyddog Lles y Clwb a’r Arweinwyr Diogelu Cenedlaethol i ddilyn y camau priodol ar gyfer pob achos, gan roi blaenoriaeth i les y plentyn/oedolyn mewn perygl bob amser.

  • Yn dibynnu ar natur y pryderon/datgeliadau, gellir gwneud atgyfeiriad i’r canlynol:

    • Yr heddlu mewn argyfwng: 999/101

    • Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd 01633 656656 (Y tu allan i’r oriau arferol: 0800 3284432)

    • Plant – Tîm Dyletswydd ac Asesu

    • Oedolion – Tîm Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed

LTA logo