Gwersi Nofio i Blant ag Anghenion Ychwanegol

Mae Casnewydd Fyw yn rhedeg rhaglen nofio gynhwysol sy'n dilyn fframwaith Dysgu Nofio Cymru.

I'r rhai sydd ag anghenion ychwanegol gallwn gynnig sesiynau nofio hygyrch sy'n caniatáu i nofwyr fynychu'r pwll mewn modd diogel a dan arweiniad hyfforddwr.

Os oes angen cymorth ychwanegol yn y dŵr rhaid i riant/gwarcheidwad/gofalwr gael mynediad i'r dŵr gyda chi. 

Mae nofwyr yn y gwersi hygyrch yn dilyn fframwaith Dysgu Nofio Cymru gydag addasiadau a wnaed gan ein tîm addysgu lle bo angen i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ddysgu nofio.

 

Dim ar gael ar hyn o bryd