Beicio Grŵp Dan Do casnewydd fyw

Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn cynnwys Stiwdio Beicio Grŵp Dan Do (BGDD) fodern, ac mae ganddi 40 o feiciau Tomahawk IC7 arobryn. 

Mae’n cynnwys consolau ar y llyw, a gall beicwyr gael adborth yn seiliedig ar eu perfformiad, sy’n helpu i deimlo'n rymusol a chaniatáu i'n hyfforddwr ffitrwydd ddarparu profiad dosbarth mwy cywir ac wedi'i deilwra.

Gweld ein cwestiynau cyffredin am Beicio Grŵp Dan Do

Sesiynau BGDD yn y Felodrom

Coach by Color®

System hyfforddiant beicio grŵp newydd chwyldroadol sydd wedi’i theilwra ar gyfer pob unigolyn yn yr ystafell! Beiciwch ar lefel sydd wedi ei theilwra ar eich cyfer chi mewn parthau lliw, mae pob lliw yn cynrychioli gwahanol ddwyster. Mae hon yn ffordd haws o lawer o weithio ar eich lefel bersonol nag a geir mewn dosbarthiadau sbin arferol.   

 

Archebwch Nawr

MyRide® Live

Dosbarthiadau rhithwir sy’n para 30 a 50 munud lle cewch ddewis o blith dosbarthiadau stiwdio neu fynd yn fyd-eang gyda theithiau rhithwyr drwy Batagonia, Sydney a mannau eraill! Sylwer na ddefnyddir hyfforddiant lliw yn MyRide® yn Fyw. 

 

 

Archebwch Nawr

Cysylltu

Sesiwn hwyliog a difyr lle mae ychydig o gystadlu ysgafn oherwydd y dangosir pellter, cyflymder a hyd y beicio beicwyr gwahanol barthau lliw ar y sgrin.  Chaiff neb ei amlygu!  Mae modd optio allan o’r cystadlu neu fod yn ddi-enw hefyd. 

 

 

Archebwch Nawr

Teithiau Rithiol

Wedi eu hamserlennu o gwmpas ein sesiynau byw.  Mae’r teithiau rhithiol yn dangos golygfeydd o bedwar ban y byd ar y sgriniau.  Gellir defnyddio Coach by Color® gyda’r sesiynau hyn i roi gwybodaeth i feicwyr am eu cyflymdra a pharth lliw. 

 

 

Archebwch Nawr

Hyfforddwr Rhithiol

Bydd hyfforddwyr ar-sgrin yn arwain beicwyr mewn sesiwn hwyliog a dynamig.  Defnyddir Coach by Color® i sicrhau bod beicwyr yn beicio ar y dwyster addas.

 

 

Archebwch Nawr
Screenshots of the ICG app

App ICG

Cofiwch lawrlwytho'r app ICG Training cyn eich sesiwn! 

Parwch eich dyfais gydag unrhyw un o'n Beiciau Dan Do i weld, cadw ac olrhain cofnod o’ch ymarfer corff wrth i chi bedlo eich ffordd i’r uchelfannau.

Gyda'r app ICG®, lliw yw eich hyfforddwr. Mae’n reddfol ac yn hawdd, dim ond paru cyfrifiadur eich beic â lliw a data eich ymarfer corff a ddangosir ar yr app ICG® sydd angen i chi ei wneud i fod yn y parth hyfforddiant cywir - 5 parth lliw i’ch cael chi'n fwy heini, yn gyflymach.
 

lawrlwythwch ein app am ddim heddiw

Edrychwch ar ein hamserlenni, archebu ein dosbarthiadau ymarfer grŵp, llysoedd a gweithgareddau eraill tra ar y symud.

mobile phones displaying the newport live app